“Mae Technium Peirianneg Perfformiad yn cynorthwyo cwmnïau sy’n seiliedig ar wybodaeth i ymdopi ag anghenion newidiol y diwydiannau modurol, chwaraeon moduro ac awyrofod. Datblygwyd y prosiect trwy bartneriaeth gref gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat.”

Andrew Davies AC,
Y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth,
Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Lleolir Technium Peirianneg Perfformiad, cyfleuster 2,200 metr sgwâr ar gyfer deori ymchwil a datblygu arloesol, ym Mhorth Llanelli yn Sir Gaerfyrddin. Mae Technium yn addas ar gyfer busnesau ifanc yn y sector peirianneg perfformiad sy’n arbenigo ym meysydd:-

  • cynllunio a datblygu cydrannau/systemau
  • dadansoddi elfennau penodol (FEA)
  • modelu ac efelychu
  • electroneg a thelemateg 
  •  perfformiad gwydnwch a blinder
  • Mae Technium Peirianneg Perfformiad yn rhan o rwydwaith deori Cymru gyfan sy’n darparu’r amgylchedd delfrydol i alluogi busnesau technoleg ifanc i droi eu syniadau yn gynigion masnachol y gellir eu marchnata.  Mae Technium yn cynnig y buddiannau canlynol:-

  • Cysylltiadau uniongyrchol ag Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe.
  • Mynediad i Ganolfan Ragoriaeth IBM mewn PLM (Rheoli Cylch Bywyd Cynhyrchion) ar y safle a chymorth i’w defnyddio.
  • Cyfleusterau arloesol gyda gwasanaeth blaen y t? ac ystafelloedd cynadledda a chyfarfod.
  • Cymorth technegol a busnes penodol ar y safle.
  • Cyfleoedd rhwydweithio yn y diwydiant.
  • Cyfleoedd gwych i gwmnïau sy’n tyfu’n fwy na’r gofod sydd ar gael yng nghyfleuster Technium Peirianneg Perfformiad ehangu ar dir cyfagos.