Welsh Assembly Government
Dydd Gwener 29 Awst 2008
Gwasanaethau TIR Pan-Cymru

Gwasanaethau TIR Pan-Cymru

*

Mae tîm Tir WDA yma i’ch helpu gyda’ch cynigion datblygu.  Mae’r tîm yn gweithredu ledled Cymru, ac mae ganddo’r arbenigedd angenrheidiol i ddod â thir ymlaen i’w ddatblygu.  Mae gennym ein timau ein hunain o arolygwyr, cynllunwyr, peirianwyr a chymorth technegol, sydd â phrofiad o ddatblygiadau yn ardaloedd trefol a gwledig Cymru, ac yn ddiweddar, ychwanegwyd at y rhain trwy benodi staff proffesiynol gydag arbenigedd penodol mewn adfywio tir llwyd.

Mae arbenigedd mewnol mewn nodi safleoedd, cydosod a chynllunio tir, gan gynnwys defnyddio grymoedd Prynu Gorfodol lle bydd angen, wedi’i ddatblygu a’i fireinio dros y 25 mlynedd diwethaf.

Os ydych yn chwilio am dir masnachol a phreswyl ar raddfa fawr i’w ddatblygu yng Nghymru, gallwch fod yn sicr y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu i lwyddo.

Sylwch fod y gwasanaethau hyn wedi’u bwriadu at ddibenion corfforaethol neu gan fusnes i fusnes, ac nid ydynt ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol.

Tir ar werth
Mae tîm Tir yr Asiantaeth yn dod â thir I’r farchnad ar gyfer datblygiadau diwydiannol, masnachol a phreswyl. Defnyddiwch y dolenni isod I weld beth sydd ar gael ar hyn o bryd:

 

I gysylltu â thîm Tir WDA, defnyddiwch y ddolen isod: