Trosolwg o Ganolbarth Cymru
Sgiliau, mynediad i farchnadoedd, cyfathrebu da a chymorth busnes - dyna’r pedwar maen prawf hollbwysig i unrhyw gwmni sy’n ceisio ehangu neu ddechrau prosiect newydd. Mae Canolbarth Cymru’n bodloni’r holl anghenion hyn ynghyd â rhywbeth ychwanegol: sef ansawdd bywyd.
Nid golygfa ryfeddol yn unig mo Canolbarth Cymru bellach. Mae hwn yn rhanbarth lle mae lle busnes o safon ar gael yn barod - fel rheol am gost sylweddol is nag y byddech yn ei thalu mewn mannau eraill. Ac at hynny mae gorbenion busnes mor gystadleuol ag unrhyw le arall yn y DU.
Gofynnwch i unrhyw un o’r nifer fawr o gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol yma, a byddant yn dweud wrthych: mae busnes yn wirioneddol yn gweithio yng Nghanolbarth Cymru.
Mae yng Nghanolbarth Cymru drefi marchnad llewyrchus, sy’n cynnig cyfoeth o bobl hyddysg, uchel eu cymhelliant a theyrngar i helpu symud eich busnes yn ei flaen. Mae safon system addysg Cymru’n enwog, ac mae perthynas agos rhwng yr ysgolion uwchradd a’r cyflogwyr lleol yng Nghanolbarth Cymru: maen nhw yna ar gyfer ei gilydd. Mae Cymru hefyd yn gartref i’r ail brifysgol fwyaf ym Mhrydain - mae graddedigion ac ôl-raddedigion yn awyddus i aros a gwneud eu dyfodol yma yn economi newydd Cymru sy’n cael ei chymell gan wybodaeth.
Mae cyfathrebu modern yn golygu mai clic ar y llygoden yn unig sydd rhyngoch a chwsmeriaid a chyflenwyr mewn unrhyw ran o’r byd. Mae yng Nghanolbarth Cymru fynediad ffisegol da hefyd. Nid oes unman ymhellach na thair awr i ffwrdd o un o’r pedwar maes awyr rhyngwladol gerllaw. Ac er y bydd rhannau helaeth o’r DU yn dod i stop yn rheolaidd gyda thagfeydd cynyddol, mae ein ffyrdd agored yn parhau’n gyflym ac yn rhydd o dagfeydd, sy’n helpu’ch cysylltu’n uniongyrchol â chanolfannau poblogaeth mawr y DU a thu hwnt.
Mae gan Ganolbarth Cymru enw da am gynnig adeiladau o safon sydd ar gwmnïau sy’n ehangu eu hangen - pan fyddant eu heisiau ac ar delerau deniadol dros ben. Mae dewis o unedau o 70 metr sgwâr (750 troedfedd sgwâr) i 4646 metr sgwâr (50,000 troedfedd sgwâr) ar gael nawr, ac yn barod i’w defnyddio. Gellir adeiladu safleoedd mwy neu rai pwrpasol yn unol â’ch manyleb ar un o barciau busnes modern Canolbarth Cymru, bob un mewn amgylchedd ysbrydoledig. Gellir adeiladu unedau o ryw 465 metr sgwâr (5,000 troedfedd sgwâr) i hyd at 12,080 metr sgwâr (130,000 troedfedd sgwâr).
Mae sefydlu gweithrediad newydd mewn amgylchedd newydd yn her i unrhyw gwmni, ond yng Nghanolbarth Cymru, mae gan WDA record gadarn o ddarparu’r atebion iawn.
|