I gael gwybodaeth am eiddo sydd ar gael yng Nghanolbarth Cymru, porwch drwy’r map rhyngweithiol isod, neu dewiswch o’r bar bwydlenni ar yr ochr chwith.
Rhan allweddol o’r gwasanaeth hwn yw Cronfa Ddata Eiddo Cymru gyfan. Mae hon yn cynnwys manylion am ddewis helaeth o dir ac eiddo sydd ar gael at ddefnydd masnachol. Gallwch chwilio’r gronfa ddata hon i ddod o hyd i dir ac eiddo sy’n bodloni’ch union anghenion.
Mae’r ffilm Flash yn cynnwys map sy’n rhoi trosolwg gryno o isadeiledd Canolbarth Cymru a’r ardaloedd sy’n gymwys i gael nawdd. Mae’r map hefyd yn cynnwys gwybodaeth am eiddo sydd ar gael yng Nghanolbarth Cymru
Dyma’r darnau allweddol o isadeiledd Cymru a nodir ar y map:
Meysydd awyr y Trallwng ac Aber-porth
Mae’r map hefyd yn dangos ble mae Cymru mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig a’r byd. Mae’r mathau o nawdd a nodir yn cynnwys ardaloedd amcan 1, amcan 3, amcan 2 trosiannol ac amcan 5b trosiannol. Mae’r map hefyd yn nodi’r ffin ar gyfer ardaloedd amcan 3.