Gogledd Cymru yw'r rhanbarth perffaith i fusnesau dyfu, ehangu a ffynnu. Mae yma rai o'r cysylltiadau cludiant gorau yn y DU, gan gynnwys ffyrdd wedi eu dynodi'n ffyrdd Euro-route, porthladdoedd dwr dwfn a phorthladdoedd fferi a meysydd awyr rhyngwladol.
Mae'r agosrwydd i ganolfannau busnes mawr Lerpwl, Manceinion a Birmingham yn golygu bod Gogledd Cymru'n ddewis naturiol i gyflenwyr i ac ehangu o'r ardaloedd gorlawn hyn.
Ychwanegir at y tir a'r eiddo masnachol rhagorol sydd ar gael gan ganolfannau Technium hynod arbenigol, sy'n cefnogi opto-electroneg ac ymchwil meddalwedd uwch a datblygu. Cefnogir hyn hefyd gan y rhagoriaeth academaidd sydd ar gael gan Brifysgolion lleol.
Rhan allweddol o’r gwasanaeth hwn yw Cronfa Ddata Eiddo Cymru gyfan. Mae hon yn cynnwys manylion am ddewis helaeth o dir ac eiddo sydd ar gael at ddefnydd masnachol. Gallwch chwilio’r gronfa ddata hon i ddod o hyd i dir ac eiddo sy’n bodloni’ch union anghenion.