Welsh Assembly Government
Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008
Barc Technegol Wrecsam


Cyflwyniad i Barc Technegol Wrecsam

*

 
Mae Parc Technoleg Wrecsam yn rhan allweddol o'r strategaeth i amrywio sylfaen ddiwydiannol ddeinamig bresennol Sir Wrecsam yn y Gogledd Ddwyrain. Bydd Parc Technoleg Wrecsam yn apelio'n benodol at gwmnïau ym meysydd gofal iechyd a thechnoleg feddygol. Mae'r Parc yn ymestyn dros 20.23 hectar (50 erw) o barcdir, sy'n eiddo i Gyngor Sir Wrecsam ar gyrion Wrecsam.

Mae isadeiledd ffyrdd a gwasanaethau wedi'i ddarparu, a bydd cysyniad cynllunio hyblyg yn galluogi cwmnïau i gael safle a fydd yn bodloni gofynion uniongyrchol ac anghenion ehangu tymor hir. Rhoir sylw penodol i gynnal safonau rhagorol o ddylunio a thirlunio pensaernïol, gyda dwysedd isel ar y safle. Canolbwynt y Parc Technoleg yw Neuadd Croesnewydd, ty bonedd rhestredig Gradd I, a Sefydliad Meddygol Wrecsam gerllaw: Canolfan Hyfforddiant Graddedigion pwrpasol. Mae Neuadd Croesnewydd yn cynnwys Asiantaeth Gwasanaethau Busnes sy'n cynnig ystod o gyfleusterau gweinyddol, cynadledda a hyfforddiant, ynghyd â Sefydliad Astudiaethau Iechyd sy'n gweithio law yn llaw â'r sector iechyd.

*

  • Manylion Cyswllt
  • Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd
  • Y Lleoliad