Croeso i Ty Ymerodrol Mae Pen-y-bont ar Ogwr ryw 20 milltir o orllewin Caerdydd a rhyw 22 milltir i’r dwyrain o Abertawe. Mae’r dref yn union i’r de o draffordd yr M4 a gellir ei chyrraedd oddi ar gyffyrdd 35 a 36. Mae yna gysylltiadau rhagorol, nid yn unig ar hyd y ffyrdd, ond hefyd ar y rheilffyrdd, ac mae Pen-y-bont ar Ogwr ar linell y Great Western, sy’n cynnig gwasanaethau cyflym iawn i orsaf Paddington, Llundain (amser teithio o ryw 2 awr). Mae prif orsaf bysiau’r dref yn agos, ac mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd 12 milltir i’r de-ddwyrain, sy’n cynnig gwasanaethau i amrywiol fannau yn y DU ac Ewrop. Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal Haen 1 at ddibenion Cymorth y DU, ac yn ardal sy’n cael ei hariannu gan Grant Amcan 1. Felly, gallai defnyddwyr cymwys cael cymhellion sylweddol. Mae manylion pellach ar gael ar gais. Y Lleoliad Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd Manylion Cyswllt |