Mae datblygiad newydd Pavilions yn Llantarnam yn gyfle mawr i ddefnyddwyr swyddfa ddod o hyd i amgylchedd o safon uchel wedi’i deilwra ar gyfer y sectorau uwch dechnoleg, meddalwedd ac electroneg. Mae’r datblygiad wedi’i ddylunio i gyflawni gradd “Rhagorol” o dan ddynodiad UK BREEAM.
Mae’n cynnwys chwe adeilad, sydd ar gael mewn maint 415 metr sgwâr (4,472 troedfedd sgwâr) hyd at 612 metr sgwâr (6,590 troedfedd sgwâr). Mae wedi’i drefnu mewn platiau llawr o 197 metr sgwâr (2,118 troedfedd sgwâr). Mae mewn ardal Haen Un ar gyfer Cymorth Dewisol Rhanbarthol, a gallai lefelau uchaf y grant fod ar gael ar gyfer cynigion cymwys.