Welsh Assembly Government
Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008
Trosolwg o Dde Ddwyrain Cymru

Trosolwg o Dde Ddwyrain Cymru

*

Mae economi ffyniannus De Ddwyrain Cymru yn sicrhau bod y rhanbarth yn un o’r economïau sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop.  Ynghyd â record i’w genfigennu ar gyfer denu buddsoddiadau o’r tu allan, mae’r rhanbarth yn cynnig ystod eithriadol o gyfleoedd, gyda chefnogaeth a chymorth WDA, gallai eich busnes elwa o nifer o fanteision De Ddwyrain Cymru.
Mae’r rhanbarth yn cynnwys cymysgedd amrywiol o ardaloedd trefol a gwledig - o ddinasoedd bywiog a cosmopolitan Caerdydd a Chasnewydd - i dreftadaeth y morlin a chymoedd Cymru ar eu newydd wedd.  Gyda’r lleoliadau hyn yn gefndir iddynt, mae nifer o gwmnïau wedi ymsefydlu ac wedi manteisio ar yr amgylchedd deniadol, yr ansawdd bywyd gwych, y ddarpariaeth wych o dai, yr addysg a’r cyfleusterau hamdden yn Ne Ddwyrain Cymru.


Mae twf economaidd parhaus yn Ne Ddwyrain Cymru yn sylfaen gref ar gyfer datblygu eiddo diogel, ac mae prisiau tir a rhenti swyddfeydd yng Nghymru ymhlith y mwyaf cystadleuol yn Ewrop.  Gall WDA gynnig ystod o ddewisiadau eiddo i fodloni’ch anghenion - o safleoedd sydd ar gael i unedau a wasanaethir yn llawn ac sy’n barod i’w defnyddio’n syth - o unedau traddodiadol i barciau busnes modern.


Mae poblogaeth De Ddwyrain Cymru tuag 1.2 miliwn a gweithlu medrus iawn a dyfeisgar o dros 647,000, sydd wedi addasu’n hawdd i arferion gweithio cwmnïau rhyngwladol.  Mae Ysgolion, Colegau, Prifysgolion a sefydliadau hyfforddiant yn y rhanbarth i gyd yn gweithio gyda busnes i sicrhau bod yna weithlu medrus ar gyfer cwmnïau sy’n tyfu.


Caiff y rhanbarth ei wasanaethu gan gysylltiadau ffyrdd, rheilffyrdd, môr ac awyr gwych, sy’n ei wneud yn lleoliad strategol delfrydol.  Mae’r rhwydwaith traffyrdd yn cysylltu’r rhanbarth â Llundain, prif ddinasoedd y DU ac Ewrop trwy Dwnel y Sianel.  Caiff teithiau awyr eu trefnu’n aml o feysydd awyr Rhyngwladol Caerdydd a Bryste i brif ddinasoedd y DU ac Ewrop, ac mae Meysydd Awyr Rhyngwladol London Heathrow a Gatwick ychydig dros ddwy awr i ffwrdd.  Gall dociau a phorthladdoedd y rhanbarthau ddarparu ar gyfer cychod o ryw 40,000 tunnell ac mae ganddynt gyfleusterau trafod ar gyfer ystod gyfan o gargo sych a mawr.  Gyda datblygu Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu, mae isadeiledd TG strwythuredig hefyd yn allweddol i unrhyw fusnes, ac mae De Ddwyrain Abertawe yn arwain y ffordd mewn cyfathrebu Band Eang.


Mae llawer eiddo strategol allweddol ar gael ar hyn o bryd yn Ne Ddwyrain Cymru, a chan fod y wefan hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd, bydd mwy o safleoedd ar gael i chi ddewis yr eiddo neu’r cyfleuster penodol ar gyfer eich gofynion busnes.