Welsh Assembly Government
Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008
Parc Derwyn


Croeso i Barc Derwen

Bu galw cryf ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ddatblygiad preswyl ers cryn amser, ynghyd â’r angen am le busnes o safon a ffordd osgoi i’r gogledd - a fyddai hefyd yn rhoi gwell mynediad ffordd i’r parciau busnes a diwydiant.  Mae’r ffaith fod tir yn eiddo i nifer o berchnogion wedi ei gwneud yn anodd  defnyddio dull strwythuredig fel hyn.  Mae WDA wedi cael rhyw 36 ha (90 erw) o dir gyda’r canlyniadau canlynol.

  • Gan fod y tir wedi’i grynhoi, mae tîm WDA Land wedi gallu trafod yn fanwl gyda Westbury Homes a Wimpey Homes.
  • Mae tirfeddianwyr eraill y mae hyn yn effeithio arnynt hefyd wedi’u tynnu i mewn i’r trafodaethau, er mwyn gofalu am eu buddiannau.
  • Mae’r Tîm Tir hefyd yn hyrwyddo adeiladu ffordd osgoi Coety, sy’n rhedeg trwy Ystâd Ddiwydiannol Bracla, a bydd yn rhyddhad mawr i’r pentref hwn sydd dan warchae.
  • Dylai Pen-y-bont ar Ogwr bellach, dros y deng mlynedd nesaf, gael hyd at 1500 o gartrefi newydd, ynghyd â’r isadeiledd a’r safleoedd angenrheidiol ar gyfer ei thwf yn y dyfodol.  Mae hyn yn dod ag amrywiaeth o gyfleoedd i sefydliadau sydd â diddordeb mewn datblygu’r lleoliad hwn.

    image