Mae Stad Ddiwydiannol Rising Sun mewn ardal ddiwydiannol sydd wedi hen ennill ei blwyf ac sydd â chronfa lafur sgilgar, lefel uchel o gynhyrchiant, costau gweithredu isel a seilwaith cyfathrebu ardderchog. Cafodd sylfaen ddiwydiannol amrywiol yr ardal lwyddiant sylweddol o fewn nifer fawr o sectorau, yn cynnwys awyrofod, modurol, peirianneg fanwl, cynnull electronig a biotechnoleg.
Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn datblygu cyfleuster gweithgynhyrchu/pencadlys modern i’r safonau uchaf posibl. Caiff dyluniad yr adeilad ei fonitro o gymharu â chanllawiau BREEAM gyda’r bwriad o gyflawni graddiad “ardderchog”.