Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dydd Iau 08 Ionawr 2009
Parc Ynni Baglan

Llys Gemini


Bellach ar gael i’w ddefnyddio, mae Llys Gemini yn uned weithgynhyrchu ysgafn modern sy’n cynnig rhyw 4273 metr sgwâr o le gweithgynhyrchu a 552 metr sgwâr o le swyddfa.

Lleolir Llys Gemini o fewn Cam 1 Parc Ynni Baglan. Lleolwyd yr adeilad ar y safle i alluogi lleoliad cam 1 i ehangu 80%, gan gynnwys ehangu’r cyfleusterau i gerbydau.

Brîff y prosiect oedd datblygu adeilad ffatri a oedd yn enghraifft o gynllun da a manylder pensaernïol, wedi’i osod o fewn ardaloedd allanol wedi’u hadeiladu’n gryf, tirlunio deunydd caled a lle i gerbydau, wedi’i amgylchynu gan dirlunio deunydd naturiol.

Llewelyn Lewis Sennik oedd y penseiri a gomisiynwyd i gynllunio’r cyfleuster gweithgynhyrchu, ffrâm dur, un llawr, gan gynnwys bloc swyddfa 2 lawr, gwaith allanol cysylltiedig, maes parcio, iard tryciau a lle storio. Comisiynwyd adran penseiri tirwedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gynllunio’r gwaith tirlunio deunydd naturiol.

Gwasanaethau

Gwasanaethir yr adeilad gan y prif gyflenwad dwr, trydan a nwy sy’n dod i mewn a gyflenwir gan isadeiledd y Parc Ynni. Bydd gan y gwasanaethau hyn ddigon o allu ar gyfer y gweithredoedd cynhyrchu sydd fel arfer yn cael eu cysylltu â defnydd diwydiannol ysgafn.

Caiff y swyddfeydd/ardal ategol eu gwasanaethu’n llawn, gan gynnwys nifer o osodiadau ynni effeithlon a dosbarthu systemau gwybodaeth. Darparwyd lifft o fewn ardal y swyddfeydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â deddfwriaeth mynediad i’r anabl.

Cynlluniwyd a datblygwyd y datblygiad gan gydnabod materion cynaladwyedd ac ymgorffori mesurau arbed ynni.

Mae’r adeilad yn bodloni safonau cynllunio BREEAM presennol.