Mae Parc Ynni Baglan wedi’i ddynodi’n safle datblygiad strategol gan Awdurdod Datblygu Cymru. Mae’r Parc wedi’i leoli’n ddelfrydol ar Gyffordd 41 traffordd yr M4 ac mae ger y brif system rheilffyrdd intercity De Cymru-Llundain.
Mae Parc Ynni Baglan yn safle mawr, sy’n cynnig ystod o gyfleoedd datblygu ar gyfer y sectorau Gwasanaethu a Gweithgynhyrchu. Mae safleoedd ffatri, swyddfeydd a safleoedd datblygu modern, ansawdd uchel, wedi’u teilwra’n benodol yn bodloni anghenion y rhan fwyaf o fusnesau newydd. Mae safleoedd datblygu a wasanaethir ar gael nawr.
Mae Parc Ynni Baglan yn ddatblygiad dwysedd isel lle mae gan yr adeiladau o leiaf 100% o le i ehangu. Mae’r Parc yn fan arddangos ar gyfer cynlluniau adeiladau â nodweddion amgylcheddol a chynaladwyedd o’r radd flaenaf. Mae cynllun tirlunio ansawdd uchel yn gwneud Parc Ynni Baglan yn lleoliad deniadol ar gyfer busnesau o safon.
Mae Parc Ynni Baglan yn gartref i fuddsoddiad gwerth £300 miliwn General Electric mewn technoleg cynhyrchu pwer newydd. Mae hwn yn arbed hyd at 30% mewn costau trydan i fusnesau sydd wedi’u lleoli yma.
Yn fuan iawn, bydd Parc Ynni Baglan yn dod yn gartref i’r Technium Technolegau Cynaliadwy newydd. Bydd hyn yn darparu sylfaen i fusnesau newydd a phresennol ganolbwyntio’u sylw ar Ymchwil a Datblygiad, sydd wedi’i gysylltu â Phrifysgol Abertawe a sefydliadau academaidd eraill.
Mae Parc Ynni Baglan yn cael ei ddatblygu a’i hyrwyddo ar y cyd gan bartneriaeth cyhoeddus-preifat fywiog sy’n cynnwys Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a BP