|
Mae Cross Hands, ar ffordd ddeuol yr A48 sy’n estyniad o’r M4, yn dod yn ganolfan fawr ar gyfer datblygiadau diwydiannol. Mae’r safle ryw 16 milltir o Abertawe, 9 milltir o Lanelli a 12 milltir o Gaerfyrddin mewn man strategol sy’n manteisio ar weithlu medrus mawr o fewn pellter gyrru agos.
Mae’r safle’n rhoi mynediad cyflym i farchnadoedd yng ngweddill De Cymru, Canolbarth a De Lloegr ar hyd yr M4, 4 milltir i ffwrdd. Mae hefyd yn lleoliad strategol i gwmnïau sy’n gwasanaethu Gorllewin Cymru. Mae cyfleusterau porthladdoedd lleol ar gael yn Aberdaugleddau, Abergwaun ac Abertawe a gorsafoedd y prif linellau rheilffordd yn Abertawe, Llanelli a Chaerfyrddin.
Cyflwyniad i Barc Busnes Cross Hands Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd Manylion Cyswllt |