Croeso i Barc Busnes Cross Hands Mae’r parciau hyn sy’n ffinio â’i gilydd yn cynnig ystod lawn o gyfleoedd datblygu mewn canolfan sy’n cyflym ddod yn ganolfan fasnach, manwerthu a diwydiant ac sydd â chysylltiadau cludiant cryf â marchnadoedd cenedlaethol a ffynonellau llafur rhanbarthol.
Mae’r unedau presennol wedi’u hadeiladu yn ôl manyleb uchel ar y ddau safle i fodloni anghenion mentrau masnachol a diwydiannol bach a chanolig. At hynny, mae tir helaeth ychwanegol bellach ar gael i ddarparu ar gyfer gweithrediadau ar raddfa fwy.
Mae’r Parc Busnes presennol, sy’n agor yn uniongyrchol i gylchdro'r A48 i’r gogledd a mynediad ffordd ymuno o’r A48 ar yr ochr ddeheuol, yn ymestyn dros ryw 3840 hectar (85 erw). Mae wedi’i ddatblygu ar gyfer ystod o ddefnyddiau’r sector gwasanaethu a’r sector manwerthu ynghyd â defnyddiau busnes a diwydiant mwy safonol. Datblygwyd y rhan fwyaf o’r tir ar gyfer datblygiadau pwrpasol, er bod yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Caerfyrddin, wedi datblygu Canolfan Gweithdai Busnes i gynnig unedau sefydlu sy’n amrywio o 46.45 i 139.35 metr sgwâr (500 i 1,500 troedfedd sgwâr) ynghyd ag unedau 278.7 metr sgwâr (3,000 troedfedd sgwâr) mewn mannau eraill ar yr ystâd.
I grynhoi, mae Cross Hands yn cynnig ystod unigryw o gyfleoedd datblygu sy’n darparu ar gyfer ystod o arddulliau a meintiau o adeiladau. Mae i’r estyniad newydd i’r Parc Busnes ei ddelwedd ei hun sy’n rhoi’r hyblygrwydd mwyaf.
Y Lleoliad Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd Manylion Cyswllt |