Welsh Assembly Government
Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008
Trosolwg o Dde Orllewin Cymru


Trosolwg o Dde Orllewin Cymru

*

Mae De Orllewin Cymru yn cynnwys cyfuniad amrywiol o ardaloedd trefol a gwledig.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r rhanbarth wedi gweld twf dramatig mewn buddsoddi gwasanaeth a buddsoddi sy’n cael ei arwain gan dechnoleg i gyd-fynd â’i sylfaen diwydiant mwy traddodiadol.  Mae Abertawe, yn enwedig, wedi gweld trawsnewid, trwy raglen fuddsoddi wedi’i strwythuro i’r ddinas a’r cylch.
Mae’r rhanbarth yn cynnig ystod anferthol o gyfleoedd ar gyfer buddsoddi masnachol, gan gynnwys gweithlu aml-fedrus ac ymroddedig, mynediad hawdd i farchnadoedd, dewis eang o safleoedd ac eiddo strategol, ac un o’r pecynnau grant mwyaf cystadleuol sydd ar gael yn y DU.  Mae De Orllewin Cymru, gyda’i amgylchedd gwledig trawiadol, hefyd yn cynnig ansawdd bywyd i genfigennu wrtho.

Cyfathrebu
Mae De Orllewin Cymru yn elwa o gael mynediad cyflym i brif rwydweithiau ffordd, rheilffordd, awyr a môr gan sicrhau cyfathrebu helaeth â marchnadoedd mawr yn y DU ac Iwerddon.

Mae traffordd yr M4 yn cysylltu’r rhanbarth â Llundain mewn prin 3 awr, ac ymlaen trwy Dwnel y Sianel i Ewrop.  Mae modd cyrraedd holl ddinasoedd mawr y DU yn hawdd ar y rheilffordd.  Mae maes awyr Rhyngwladol Caerdydd 45 munud i ffwrdd o Abertawe ac yn cynnig teithiau uniongyrchol aml i ddinasoedd mawr y DU ac Ewrop.

Gwasanaethir y rhanbarth hefyd gan nifer o borthladdoedd, a gall cynnig cyfleusterau angori dwfn a gwasanaethau glanio preifat.  Gall Porthladd Abertawe ddarparu ar gyfer cychod hyd at 30,000 tunnell fetrig ac mae’n gallu delio â chargo i mewn ac allan, cargo cynwysyddion, llwythi a phrosiect.

Gweithlu
Mae De Orllewin Cymru yn ymestyn o Gastell-nedd Port Talbot, i Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro gyda phoblogaeth o 652,000, sef rhyw 22 y cant o gyfanswm Cymru.

Mae pobl yn ffactor mawr yn llwyddiant unrhyw weithrediad, ac mae gan y gweithlu hwn hanes o gynhyrchiant ac ymrwymiad uchel - moeseg sydd wedi parhau am gyfnod hir yn Ne Orllewin Cymru.  Mae’r ardal hefyd yn mwynhau rhai o’r cysylltiadau diwydiannol gorau yn y DU.  Mantais allweddol arall yw hyblygrwydd y gweithlu.  Mae gweithwyr yn yr ardal wedi addasu i ofynion gweithgynhyrchu modern a’r diwydiant gwasanaethau yn hawdd, i gynnig i fusnesau technoleg uwch a busnesau gwasanaeth heddiw y sgiliau a fynnir ganddynt.

Trwy gysylltiadau cryf ag academia, cynigir siop bopeth i fuddsoddwyr ar gyfer eu holl ofynion hyfforddiant.  Mae grantiau hefyd ar gael yn hwylus i gynnwys codi sgiliau gweithwyr newydd a gwella sgiliau eu staff presennol.

Cynigia De Orllewin Cymru ddewis gwych o safleoedd i fodloni’ch gofynion busnes.  Mae’r ardal yn cynnig digon o ddewis o eiddo - o safleoedd sydd ar gael i unedau gyda gwasanaethau llawn i’w defnyddio ar unwaith - o unedau diwydiannol traddodiadol i barciau busnes modern.  Mae prisiau tir a rhenti swyddfeydd yng Nghymru ymhlith y rhai mwyaf cystadleuol yn Ewrop.  Caiff cyfleoedd eiddo yn Ne Orllewin Cymru hefyd eu gwella gan y ffaith fod datblygwyr a buddsoddwyr yn elwa o gyfundrefn grantiau hynod ffafriol.