Y Lleoliad:
SA1 Glannau Abertawe
Disgrifiad o’r Eiddo:
Mae datblygiadau SA1 Glannau Abertawe yn canolbwyntio ar adeiladau swyddfa a phreswyl o safon uchel sy’n ddeniadol i fusnesau bach ac i gyrff corfforaethol, yn enwedig yn y sector e-fasnach a’r sector sy’n seiliedig ar wybodaeth.
Y Lleoliad:
Porth Llanelli
Disgrifiad o’r Eiddo
Mae datblygiad Porth Llanelli yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau ymchwil a datblygu i fusnesau sy’n arbenigo mewn peirianneg perfformiad, yn ogystal ag unedau deori a lle i ddatblygu.
Y Lleoliad
Pont Cleddau, Penfro
Disgrifiad o’r Eiddo
Mae Pont Cleddau yn cynnwys parc canolfan sy’n cynnig rhyw 50,000 troedfedd sgwâr o adeiladau, ynghyd â lle i amrywiaeth o unedau gweithgynhyrchu technoleg uwch o wahanol faint..
Y Lleoliad:
Bro Abertawe
Disgrifiad o’r Eiddo
Mae datblygiad Bro Abertawe yn cynnig amrywiaeth o adeiladau swyddfa, canolfannau galw ac unedau gweithgynhyrchu mewn maestref i’r gogledd ddwyrain o Abertawe gerllaw’r M4.
Y Lleoliad:
Pentref Trefol Llandarsi
Disgrifiad o’r Eiddo
Lle gwych i fyw a gweithio.
Y Lleoliad:
Felindre, Abertawe
Disgrifiad o’r Eiddo
Mae Felindre yn cynnig oddeutu 300 erw o ddatblygiadau sy’n addas ar gyfer cyfleusterau swyddfa, ymchwil a datblygu. Cânt eu cefnogi gan gyfleusterau cynadledda a meithrin priodol mewn lleoliad wedi’i dirlunio o safon uchel.
Y Lleoliad:
Parc Busnes Cross Hands
Disgrifiad o’r Eiddo
Datblygwyd parc busnes Cross Hands ar gyfer ystod o ddefnyddiau’r sector gwasanaeth a manwerthu, ynghyd â defnyddiau busnes a diwydiant mwy safonol.
Y Lleoliad:
Parc Ynni Baglan
Disgrifiad o’r Eiddo
Mae datblygiad Parc Ynni Baglan yn cynnwys cyfuniad o le swyddfa a lle gweithgynhyrchu, gan gynnwys Llys Astral sydd wedi ennill safon BREEAM ‘rhagorol’.
Y Lleoliad:
ECM2, Abertawe
Disgrifiad o’r Eiddo
Mae ECM2 yn cynnig cyfleusterau ymchwil, labordai a phrototeipio y gellir eu fforddio. Cânt eu cefnogi gan gyfleusterau cymorth busnes o’r radd uchaf, gan gynnwys canolfan gynadledda, ystafelloedd cyfarfod ac adeiladau swyddfa gyda gwasanaethau llawn.