|
Bydd y datblygiad yn creu amgylchedd gwych i fyw a gweithio a bydd yn cynnwys tri phentref newydd, dau barc busnes, cwrs golff ac amwynderau hamdden eraill, bob un mewn lleoliad deniadol. Mae’r tirlunio sylweddol sydd eisoes wedi’i wneud, yn bennaf o amgylch yr isadeiledd sydd wedi’i adeiladu trwy’r ardal newydd, eisoes yn tystio i atyniad Bro Abertawe fel prif safle datblygu.
Gall y parc ddenu gweithlu, hyblyg a chynhyrchiol o safon o ddalgylch mawr dinas Abertawe, a chaiff gefnogaeth ddi-ail o gyfleusterau hyfforddiant canolfan alwadau fodern ar y safle.
Caiff cymorth sgiliau ychwanegol ei ddarparu gan Goleg Addysg Bellach Abertawe, sydd wedi arloesi gyda chymwysterau newydd penodol i ddiwydiant ar gyfer staff canolfannau galwadau. Fe’i darperir hefyd gan Brifysgol Abertawe, sy’n cynnig cronfa ragorol o raddedigion gyda sgiliau ieithyddol a sgiliau busnes eraill.
Cyflwyniad i Fro Abertawe Manylion Cyswllt Y Lleoliad |