Croeso i Fro Abertawe
Mae Bro Abertawe yn un o’r cyfleoedd gorau yng Nghymru ar gyfer buddsoddiadau canolfannau galw o safon uchel, gydag adeiladau swyddfa modern mawr eisoes ar gael i’w defnyddio.
Mae’n debygol iawn mai Bro Abertawe, sydd ag arwynebedd o ryw 186.16 hectar (460 erw), yw’r datblygiad a’r cyfle buddsoddi mwyaf arwyddocaol yn hanes y ddinas, ac mae’n dilyn yr enw da sydd gan Abertawe mewn cynlluniau uchelgeisiol sydd hefyd yn cynnwys yr Ardal Fôr arobryn, bared llanw a pharc Menter clodwiw. Dros y degawd nesaf, mae Bro Abertawe yn debygol o ddod yn faestref werdd newydd i’r gogledd ddwyrain o’r ddinas, gan gynnig lleoliad mawreddog ar gyfer datblygiadau preswyl, busnes a hamdden.
Mae tir sydd wedi ei glustnodi ar gyfer datblygiad masnachol yn y cynllun yn darparu hyd at 44.52 hectar (110 erw), wedi ei rannu rhwng dwy brif ganolfan; sef Parc Busnes Glanyrafon a’r Parc Busnes Canolog.
Manylion Cyswllt Gwybodaeth Gymdeithasol Economaidd Y Lleoliad |