Mae Parc Menter Woodlands 15 milltir oddi ar yr M4 yn Ystradgynlais. Mae wedi’i ddatblygu fel mannau mentro gan WDA gydag unedau o safon uchel, cymysg eu defnydd hyd at 20,000 troedfedd sgwâr. Y prosiect diweddaraf yw dwy uned 5,000 troedfedd sgwâr, ac mae un ohonynt yn dal ar gael. Mae tir adeiladu ar gyfer unedau pwrpasol o feintiau tebyg hefyd ar gael. Mae’r Parc Menter yn lle delfrydol ar gyfer busnesau bach a chanolig lle mae adeiladau o safon a chysylltiadau ffordd da yn hanfodol.