Mae adeilad Technium Peirianneg Perfformiad yn rhoi cyfle i gwmnïau ifanc gyflawni pethau a fyddai, fel arall, yn rhy ddrud neu’n rhy anodd iddynt. 

Cyfleusterau Cyffredinol

  • 13 uned ddeori.
  • Ffônau, Rhwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) a band eang masnachol.
  • Ystafell gynadledda gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol gyda chyfleusterau cyflwyno aml-gyfrwng (Uwchdaflunydd Powerpoint).
  • Ystafelloedd cyfarfod (gan gynnwys cyfleusterau cynadledda ffôn a chynadledda fideo).
  • Derbynfa gyda gwasanaethau blaen y t? (gan gynnwys cyfarpar ffacsimili a llungopïo).
  • Ardal rwydweithio/ymlacio.
  • Cyfleusterau cegin a rennir.
  • Gwasanaeth archebu bwffe.
  • Toiledau, ystafell gawod ac ystafell newid gyda loceri.
  • Maes parcio.
  • Gwasanaeth rheoli cyfleusterau.