Logo Bwyd Cymru
Bwyd da. Gwir flas.
Pleser pur
Caws Pob wy organig wedi?i ferwi

 Mae gan wneuthurwyr caws yng Nghymru enw da am gynhyrchu llawer o fathau o gaws o safon uchel iawn. Bydd y wefan hon at eich dant os ydych yn gwsmer cyffredin, yn brynwr masnachol neu'n gogydd. Cewch wybod mwy am y broses o wneud caws, sut y caiff caws ei ddosbarthu, lle i brynu caws o Gymru a sut i'w ddefnyddio i goginio.

Mae caws o safon uchel iawn yn cael ei gynhyrchu ym mhob rhan o Gymru - defnyddiwch y Llwybr Caws i ddod o hyd i'r gwneuthurwyr. Gallwch brynu caws ar y fferm neu gysylltu â'r gwneuthurwyr i'w archebu trwy'r post. Cewch hyd yn oed weld caws yn cael ei wneud trwy ymweld â gwmni Caws Llangloffan, a gwmni Caws Cenarth, y ddau yn y Gorllewin.