Mae Technium yn cynnig yr amgylchedd gorau posibl i alluogi cwmnïau newydd a deilliedig sy’n seiliedig ar wybodaeth i wireddu eu potensial.  Mae Technium yn cynnwys rhwydwaith o gyfleusterau o’r radd flaenaf ledled Cymru, sy’n cael eu gwasanaethu gan y galluoedd technoleg gwybodaeth a lled-band ffibr optig diweddaraf.  Yn Technium, caiff cwmnïau eu cefnogi gan dîm o staff cefnogaeth busnes a thechnegol ac mae cyfleusterau labordai arbenigol ac ardaloedd rhwydweithio cyffredinol ar gael iddynt.  Mae partneriaethau cryf sydd wedi’u sefydlu rhwng Technium a Chanolfannau Rhagoriaeth Ymchwil lleol yn cynnig cefnogaeth academaidd arbenigol ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu.

“Mae Cymru yn gyrchfan ddeinamig ar gyfer busnes.  Mae Technium yn rhoi mantais i gwmnïau mewn marchnad fyd-eang lle mae arloesedd yn gonglfaen i lwyddiant masnachol, gan alluogi syniadau yfory i gael eu gwireddu yng Nghymru heddiw.”
Sir Terry Matthews, Entrepreneur