Dydd Gwener 21 Tachwedd 2008
ECM2
ECM2
*

Croeso i’r Ganolfan Peirianneg Cynhyrchu a Deunyddiau.

Gall cwmnïau o’r sectorau peirianneg cynhyrchu a deunyddiau bellach brydlesu lle mewn cymhlyg labordai ym Mhort Talbot, De Cymru, sy’n llwyr ymroddedig i Ymchwil a Datblygu. Caffaelodd Awdurdod Datblygu Cymru’r cyfleuster 10,000tr² gan Corus yn 2002 gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe’i gelwir yn Ganolfan Peirianneg Cynhyrchu a Deunyddiau, neu ECM² sy’n dalfyriad o’i enw Saesneg, sef Engineering Centre for Manufacturing and Materials.

Yn ECM², gall cwmnïau ymgymryd ag Ymchwil a Datblygu mewn cydweithrediad â’r byd addysg a gallant hefyd ddatblygu eu syniadau hyd at y cam prototeip. Ceir amrywiaeth eang o labordai yn ogystal â nifer o gilfachau gyda nenfydau uchel sy’n addas ar gyfer gweithgareddau ar raddfa fawr. Eisoes ar safle mae cwmnïau sy’n cynnig gwasanaethau dadansoddol a phrofi mecanyddol, gweithdy peirianyddol sydd wedi ei gyfarparu’n llawn ynghyd â chyfleusterau dylunio cysylltiol.

Lluniau o’r chwith i’r dde: Tu blaen Bloc A o’r fynedfa, desg y dderbynfa, ystafell fideogynhadledd

Lluniau o’r chwith i’r dde: Tu blaen Bloc A o’r fynedfa, desg y dderbynfa, ystafell fideogynhadledd


Mae prif nodweddion ECM² yn cynnwys:

• Swyddfeydd a labordai confensiynol
• pum cilfach gyda nenfydau uchel a chraeniau nenbont
• cyfleusterau cynadledda ac ystafelloedd cyfarfod
• hydroffurfiwr Anton Bauer
• efelychydd galfanu dip poeth.